Close menu
 
bottom curve image

English / Saesneg

Os mae yna anghytundeb dros tenantiaeth amaethyddol, contractau, neu unrhyw fath arall o anghydfod amaethyddol, mae ein cyfreithwyr yn deall yr heriau sy'n wynebu tirfeddianwyr a ffermwyr ac yn darparu cyngor cynhwysfawr a strategaethau i alluogi unigolion, teuluoedd, ffermydd a sefydliadau gwledig i ffynnu.

Rydym wedi magu tîm o gyfreithwyr arbenigol sy'n eich cynghreiriad cyfreithiol ac mae pob un ohonynt yn arbenigwyr gyda gwybodaeth drylwyr am y gyfraith amaethyddol a'r economi wledig.

Cysylltwch hefo'n cyfreithwyr

Beth sy'n gwneud anghydfod amaethyddol neu wledig yn wahanol i anghydfodau eraill?

Mae anghydfodau sy'n ymwneud â busnesau amaethyddol yn aml yn cyflwyno eu hunain ar ffurf cyd-destun teuluol ac felly mae angen deall a thrin y perthnasoedd personol sylfaenol yn briodol. Hefyd, mae deall beth sy'n ysgogi'r anghydfod, sy'n debygol o gynnwys y ffactorau personol yma, yn rhan bwysig o allu ei ddatrys.

Yn ogystal, gan fod busnesau amaethyddol yn aml yn cael eu gweithredu fel partneriaethau, mae ein profiad o ddeall cyfrifon partneriaeth yn hanfodol.

Pa fath o anghydfodau ffermio ac amaethyddol y gallwch chi helpu hefo?

Rydym yn delio hefo ystod eang o anghydfodau yn y sector amaethyddol ac economi wledig gan gynnwys anghydfodau rhwng partneriaid am eu hawliau ariannol; anghydfodau gyda chontractwyr a chyflenwyr; ac anghydfodau masnachol gyda phartneriaid mewn perthynas hefo phrosiectau amrywiol fel cynlluniau ynni adnewyddadwy sydd yn cael ei gynheli o'ch tir.

Hefyd, mae gan ein tîm brofiad cynhwysfawr mewn anghydfodau teuluol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â beth sy'n digwydd pan fydd partneriaid yn marw. Er enghraifft, beth ddylech chi wneud pan fydd rhieni'n marw ac mae yna anghydfod rhwng y genhedlaeth nesaf (yn aml yn cynnwys addewidion cafodd ei wneud gan y rhieni nad ydynt wedi'u hadlewyrchu yn eu ewyllys ond y maent wedi dibynnu arnynt gan y plant).

Sut rydym yn ymdrin ag anghydfod amaethyddol?

Y cam cyntaf i ni yw deall beth yr ydychchi eisiau ei gyflawni. Yna, byddwn yn eich helpu i creu llwybr i cyrraedd y canlyniad rydych yn ei dymuno trwy ddeall y ffeithiau ac yn cynghori chi ar y gyfraith berthnasol.

Ein swyddogaeth ni yw helpu chi i ddatrys eich anghydfod. Weithiau bydd hyn yn cynnwys mynd i'r llys ac weithiau bydd yn cynnwys negodi; yn aml bydd yn cynnwys y ddau. Ym mhob cam, byddwn yn sicrhau eich bod yn deall beth sy'n digwydd, pam, a beth yw'r goblygiadau, gan gynnwys yn ymwneud â chostau.

Os rhaid mynd i'r llys er mwyn ddatrys fy anghydfod?

Nid o reidrwydd. Gellir datrys anghydfodau heb weithredoedd llys, ond mae llawer yn dibynnu ar safbwynt y partïon eraill. Bydd yn aml yn angenrheidiol i gychwyn prosesau, ond mae'r rhan fwyaf llethol o achosion llys yn setlo, felly dim ond oherwydd bod prosesau llys wedi'u dechrau, nid yw'n golygu y byddwch chi'n dod i fyny i brawf.

Ein arbenigedd ar waith

  • Wnaethom weithredu ar ran ffermwr sy'n ymwneud â chynhyrchu caws mewn perthynas â gweithrediad honedig cyfleuster discowntio anfoneb ar gyfer y busnes gan bartner busnes ein cleient a'r effaith dilynol ar y busnes ac ar warantau a roddwyd gan ein cleient mewn cysylltiad â'r cyfleuster hwnnw.
  • Wnaethom weithredu ar ran deiliwr o frandio offer amaethyddol gan gynnwys perthynas â'r trefniadau contractol gyda'r frandior a'r trefniadau ariannol.
  • Wnaethom weithredu ar ran perchennog parc carafannau (tir amaethyddol blaenorol) mewn perthynas â thermau ac amodau, anghydfodau â chwsmeriaid a chyflenwyr, gan gynnwys cyflenwyr ynni.
  • Wanethom weithredu ar ran busnes cynhwysion mewn cysylltiad â chontractau ar gyfer prynu a gwerthu llaeth.
  • Wnaethom weithredu mewn perthynas â dadleuon rhwng partneriaid amaethyddol, gan gynnwys materion fel stoc byw a marw, gwerthoedd y tir amaethyddol, pa un ai masnachol neu rydd-ddaliadol yw hwnnw ac hawliau amrywiol.
  • Wnaethom weithredu mewn perthynas â ystadau amaethyddol dadleuol gan gynnwys mewn cysylltiad â'w addewidau honedig i hawl at y dyfodol (priodol ac estoppel).
  • Wnaethom weithredu ar ran ymarferwr insolfensi mewn perthynas â ystâd amaethyddol aflwyddiannus.

Cysylltwch hefo'n cyfreithwyr

Cysylltiadau Allweddol

Joseph Fletcher-Hunt

Joseph Fletcher-Hunt

Real Estate Partner

arrow icon
Read more
Nick Clarke

Nick Clarke

Senior Partner | Head of Dispute Resolution

arrow icon
Read more
James Wallace

James Wallace

Contentious Trusts & Probate Partner

arrow icon
Read more