Close menu
 
bottom curve image

English / Saesneg

Mae gwyddoniaeth ynni adnewyddadwy wedi datblygu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, gyda thechnolegau newydd yn dod i'r farchnad.

Er y gallai prosiectau ynni adnewyddadwy ymddangos fel syniad da, gall deall gofynion cyfreithio teimlo yn ddychrynllyd. Mae angen gwybodaeth arbenigol i ddeall y goblygiadau llawn sydd yn ymwneud a datblygu ffynhonnell ynni adnewyddadwy a gwerthuso'r opsiwn gorau i chi.

Cysylltwch hefo'n cyfreithwyr

Galluogi prosiectau ynni adnewyddadwy

Mae gennym arbenigedd gwirioneddol yn y sector cymhleth ond buddiol hwn. Drwy ddefnyddio sgiliau ein tîm cynllunio, eiddo, amaethyddiaeth, mwynau a gwastraff, corfforaethol, adeiladu ac timau eraill, rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar y meysydd canlynol:

  • Bionwy
  • Biomas
  • Adeiladu, cyflenwi offer a gweithrediadau
  • Ynni o wastraff
  • Cyllido - cyllid banc, mesanîn a rhyfelaeth
  • Cysylltiad grid a chytundebau prynu pŵer
  • Ynni dwr
  • Cytundebau menter ar y cyd
  • Caffael tir a chymhlethdodau
  • Nwy tirlenwi
  • Gwynt ar dir
  • Ceisiadau cynllunio ac apeliadau
  • Materion gwastraff ac amgylcheddol

Cymryd y cyfle y mae adnewyddadwydd yn ei gynnig

Mae ein tîm ynni adnewyddadwy yn ymwneud a peilota un o’r datblygiadau ffermydd gwynt mwyaf arfaethedig yn y Deyrnas Unedig drwy gynllunio a datblygu. Buom hefyd yn ddiweddar yn cynghori ar gyllido ac adeiladu cynllun gwynt ar y tir sylweddol yn llwyddiannus, yn nannedd yr argyfwng ariannol.

Mae'r farchnad ynni adnewyddadwy yn tyfu yn gyflym ac mae o yn cynnig heriau yn ogystal â chyfleoedd i berchnogion tir a datblygwyr.

Rydym yn deall y materion ar bob lefel ac yn gallu darparu cyngor a chymorth o'r radd uchaf i sicrhau bod eich prosiect yn rhedeg yn effeithlon o ddechrau i ddiwedd.

Cysylltwch hefo'n cyfreithwyr

Cysylltiadau Allweddol

David Harries

David Harries

Partner | Head of Planning, Environmental, Energy and Regulatory

arrow icon
Read more
Mark Turner

Mark Turner

Planning, Environmental, Energy and Regulatory Partner

arrow icon
Read more
Joseph Fletcher-Hunt

Joseph Fletcher-Hunt

Real Estate Partner

arrow icon
Read more