Wedi ei leoli yn Gaer, Shrewsbury, Altrincham ac y Wirral, mae ein cyfreithwyr amaethyddol wedi cefnogi’r sector amaethyddol ers lawer o blynyddoedd, gan ddarparu cyngor cyfreithiol arbenigol i ffermwyr, tirfeddianwyr, ystadau gwledig ac i fusnesau amaethyddol.
Mae ein tîm yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu cleientiaid gwledig, o anghydfodau tir cymhleth i gynllunio olyniaeth a dargyfeirio i ynni adnewyddadwy. Gyda dull arweiniol gan Bartneriaid a gwybodaeth fanwl am y sector, rydym yn cynnig atebion ymarferol ac masnachol, sy’n diogelu eich asedau ac yn sicrhau dyfodol eich gweithrediadau.
Pam Dewis Ein Cyfreithwyr Ffermio?
Trwy ddegawdau o gydweithio agos hefo ffermwyr, busnesau gwledig a thirfeddianwyr ledled Cymru a Lloegr, rydym wedi datblygu enw da am ddarparu cymorth mewn materion anghyffredin sy’n effeithio aelodau’r gymuned wledig.
Rydym yn deall y pwysau a’r blaenoriaethau sy’n unigryw i’r economi wledig, o reoliadau ac is-ddaliadau anrhagweladwy i olyniaeth rhwng cenedlaethau ac anghydfodau tir. Mae ein cyfreithwyr yn rhugl yn niansau cyfreithiol daliadau amaethyddol, cyfraith gynllunio, cynlluniau stiwardiaeth a chynlluniau dargyfeirio.
Rydym hefyd yn gwbl ymwybodol o realiti rhedeg fferm neu ystad yn hinsawdd economaidd a gwleidyddol heriol y dyddiau hyn. Mae ein rhagoriaeth dechnegol a’n hymrwymiad i berthnasau tymor hir yn sicrhau bod ein cleientiaid yn elwa ar wasanaeth dan arweiniad Partner, gan roi pwynt cyswllt cyson, profiadol i chi sy’n deall eich busnes neu’ch sefyllfa bersonol ac yn rhagweld eich anghenion.
Boed yn trafod trefniadau tenantiaeth gymhleth, yn datrys problemau ffiniau hanesyddol, neu’n arwain teuluoedd drwy gynllunio olyniaeth sensitif, rydym yn gweithredu fel eich partner cyfreithiol strategol, nid dim ond eich cynghorydd.
Mae ein cyngor bob amser yn cael ei lunio gan synnwyr masnachol. Nid ydym yn dweud wrthych yn unig beth mae’r gyfraith yn ei olygu – rydym yn ei chymhwyso’n ymarferol i gyflawni canlyniadau realistig, blaengar sy’n cyd-fynd â’ch amcanion.